|
Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno cydymffurfio â’r termau a’r amodau dilynol a chyfraith perthnasol arall. Os nad ydych yn cytuno ymrwymo i’r termau a’r amodau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r wefan hon.
Mae’r wybodaeth a’r deunydd ar y wefan hon wedi’u darparu yn rhad ac am ddim (oni nodir yn wahanol), er mwyn darparu gwybodaeth yn unig. Nid yw yn bwriadu, nac yn sefydlu cyswllt busnes, cyswllt cytundebol na pherthynas gyflogaeth gyda Tinopolis.
Mae’r wybodaeth, cynnwys, geiriau, delweddau gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i gôd html, sgriptiau a ffotograffiaeth yn eiddo i Tinopolis (oni nodir yn wahanol). Ni chaniateir copïo, ail-gynhyrchu, ail-gyhoeddi, hysbysu, darlledu neu ddosbarthu yr uchod mewn unrhyw fodd heb ganiatàd uniongyrchol Tinopolis yn ysgrifenedig ymlaen llaw.
Mae’r nodau masnach a ddefnyddir neu y cyfeirir atynt ar y wefan hon yn eiddo naill ai i Tinopolis neu eu perchnogion priodol.
Gall dolenni cyswllt ar y wefan hon arwain at wasanaethau neu wefannau nad sy’n cael eu gweithredu gan Tinopolis neu gwmnïau Tinopolis. Ni roddir dyfarniad neu warant ar wasanethau neu wefannau eraill ac nid yw Tinopolis yn derbyn cyfrifoldeb amdanynt. Nid yw cyswllt â gwefan neu wasanaeth arall yn golygu fod Tinopolis yn cymeradwyo’r wasanaeth neu’r wefan honno. Nid yw dolen gyswllt i wefan neu wasanaeth arall yn golygus y cymeradwyir y wefan neu’r wasanaeth honno. Chi sydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, neu unrhyw wasanaeth neu wefan a gysylltir â’r wefan hon.
Darperir y wefan hon “fel y mae”, ac mae Tinopolis yn ymwrthod pob gwarant o unrhyw fath – pu’n ai yn ddatganedig neu yn oblygedig, gan gynnwys gwarantau marchnadwyedd ac addasrwydd at bwrpas penodol. Ni fydd Tinopolis, nag un o’i weithwyr neu gontractwyr, o dan unrhyw amod, yn derbyn cyfrifoldeb am golledion o unrhyw fath mewn cysylltiad gyda’r wybodaeth neu’r deunydd ar y wefan hon, gan gynnwys ond heb gyfyngu i golledion gwir, ôl-ddilynol, uniongyrchol, esiamplaidd, achlysurol, an-uniongyrchol, cosbedigol neu arbenigol.
|