Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Sul, 5 Medi 2010

Archif

Tarten Bricyll ac Almwn
Gareth Richards - 13/04/10

Tarten Bricyll ac Almwn
Cynhwysion
Llenwad Almwn
60g menyn medal
60g siwgwr eisin
60g almwn wedi malu
1 wy
400g o bricyll wedi torri yn dennau
200g siwgwr caster
Toes Melys
100g menyn
60g siwgwr eisin
1 wy
100g o jam mefys
Wy a dwr i roi sglein
50g o almwnau wedi eu tafellu.
Dull:
I greu y llenwad cymysgwch y menyn, y siwgwr eisin, yr almwnau a’r wy mewn powlen hyd eu bod yn feddal ac yn olau mewn lliw.
Ar gyfer y toes chwyrliwch mewn prosesydd bwyd y siwgwr eisin, y menyn a’r wy hyd eu bod yn feddal ac yna ychwanegwch y blawd ac un llwy fwrdd o ddwr i greu toes. Yna gorchuddiwch y toes gyda cling ffilm a’i osod yn yr oergell
Trowch y ffwrn i 200 °C/ nwy6. Rhowch bapur gwrthsaim ar hambwrdd goginio a rhowch y toes arno.
Rholiwch y toes i greu cylch o 30cm ar y tin pobi. Gwasgarwch y jam mewn cylch ar hyd y toes ac yna ychwanegwch y past almwm, ac yna rhowch y pricyll arno. Codwch y toes dros y past yn ofalus.
Rhowch sglein o wy ar y toes a gwasgarwch yr almwnau wedi eu torri yn fân drosto.
Pobwch am 35-40 munud hyd bod y toes yn euraidd ei liw. Gwaenwch gyda crème fraiche.
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf