225g marjarîn meddal
225g siwgr brown golau
3 wy mawr
100g syltanas
225g blawd codi
2 lond llwy de powdr codi
400g afalau coginio wedi eu plicio a’r canol wedi eu gwaredu ac yna eu gratio
1 llond llwy de sinamwn
Ychydig ychwanegol o siwgr brown a chanu Ffrengig i sgeintio ar dop y gacen.
Popty Nwy 4/350F/180C
Leiniwch ac irwch dun 9 modfedd. Rhowch y marjarîn, siwgr, wyau, cnau, syltanas, blawd a phowdr codi mewn bowlen a’u cymysgu’n dda. Rhowch hanner yr uchod yn y tun wedyn rhowch yr afalau a’r sinamwn mewn haenen ar y top.
Rhowch weddill y gymysgedd drosto. Llyfnwch y top a sgeintiwch y siwgr a’r cnau drosto.
Craswch yn y ffwrn am 1 ¼ - 1 ½ awr neu nes fod y gacen yn barod.
Tynnwch o’r ffwrn a gadewch yn y tun i oeri wedyn ei thynnu allan a gadael iddi oeri’n gyfangwbl ar fwrdd oeri.