Cyw Iâr gyda bricyll ac alwmnau
1 llwy fwrdd olew olewydd
4 brest cyw iâr wedi sleisio
1 winwnsyn bach wedi torri’n fân
½ llwy de turmeric
½ llwy de sinamwn
100g caws hufen ysgafn
275ml llaeth sgim
150g bricyll wedi haneru
50g syltanas
25g almwnau brau
Twymwch yr olew mewn padell fawr a browniwch y cyw iâr dros wres cymhedrol am tua 5 munud. Ychwanegwch yr winwnsyn, turmeric a swinamwn. Coginiwch am 3-4 munud nes bod y cy iâr wedi coginio trwyddo. ychwanegwch y caws hufen, y llaeth, y syltanas a’r almwnau at y cyw iâr a chymysgwch yn dda. Coginiwch dros wres isel am 8-10 munud gan droi bob hyn-a-hyn a nes bod y caws wedi meddalu a’r saws wedi tewhâu.