Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 7 Medi 2010

Archif

Parfait Afal a Chnau Cyll
Llinos Woods 18/9/09

Parfait
2 Gwyn wy
75g siwgr caster
125ml hufen dwbwl

2 afal braeburn, wedi plicio a'u torri i siap sgwâr
80g siwgr caster i'r caramel
18ml Calvados

100g siwgwr caster
50g cnau cyll

Coginiwch y siwgr i wneud caramel. Rhowch yr afalau mewn i goginio a phan byddant yn frown ychwanegwch y calvados. Coginiwch am ryw ddwy funud arall.
Gadewch i oeri

Coginiwch y siwgr i wneud caramel eto ac yna ychwanegwch y cnau sydd wedi rhostio. Unwaith bydd y cnau wedi eu gorchuddio â’r caramel rhowch ar ddarn o bapur gwrthsaim i oeri. Cadwch rhyw 1/5 o’r cnau yn gyfan a thorrwch y gweddill yn fân.

Chwisgwch yr hufen. Mewn bowlen arall chwisgwch y gwyn wy nes ei fod yn ddwbwl y maint a rhowch y siwgr i mewn i wneud meringue.
Yn ofalus cymysgwch y ddau gymysgedd gyda’i gilydd.
Rhowch ar hambwrdd gyda phapur gwrthsaim a rhowch i mewn i’r rhewgell i rewi dros nos.


Bisgedi Twil

Twil caramel
200g siwgr
75g cnau wedi rhostio
Dull
Coginiwch y siwgr i garamel ac ychwanegwch y cnau sydd wedi rhostio. Trowch allan ar ddarn o bapur silicon, oerwch.
Gan ddefnyddio mat silpat, rhidyllwch gymysgedd y twil caramel i fewn i siap o'ch dewis. Rhowch i fewn i'r ffwrn gwres 180C am 5 munud i doddu y twil. Pan fydd yn barod siapwch y twil i siap o'ch dewis.

Twil hadau sesame
100g blawd plaen
200g siwgr caster
100g hadau sesame
100g menyn wedi toddu
100ml sudd oren

Dull
Dewch ar sudd oren, siwgr ar menyn i’r berw. Ychwanegwch yr hadau ar blawd a chymysgwch am ryw hanner munud.
Peipiwch y cymysg ar fat silpat. Cadwch ddigon o le rhyngddynt gan eu bod yn tueddu i wasgaru. Coginiwch am ryw 10 munud a siapwch ar ôl eu coginio.
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf