100ml olew olewydd
250g merllys wedi eu torri’n fân
3 wy wedi eu curo’n ysgafn
200g blawd codi
1 llond llwy de teim
100ml llaeth
Llond llaw olewyddion du
100g tomatos wedi eu sychu’n yr haul ac wedi torri’n fân
100g caws caled e.e. Teifi neu Gruyere wedi ei falu
190C/Nwy 5
Irwch a leiniwch dun torth 2 bwys neu 22x10cm, gyda phapur gwrthsaim. Coginiwch y merllys mewn dwr berwedig gydag ychydig o halen am tua 2-3 munud. Yna draeniwch a’u hoeri gan redeg dwr oer drostynt. Sychwch gyda lliain.
Rhowch y blawd, teim, halen a phupur mewn bowlen, ac yna ychwanegwch yr olew a’r llaeth a’u cymysgu’n dda.
Cadwch ychydig o flaenau’r merllys ac ychydig olewydd. Rhowch weddill y merllys, tomatos, olewyddion du a’r rhan fwyaf o’r caws i mewn at yr uchod a’u cymysgu’n dda eto.
Trowch i’r tun gan roi gweddill y merllys, tomatos a’r caws drosto.
Craswch am tua ¾ awr nes i’r dorth deimlo’n gadarn. Gweinwch gyda salad.