Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 7 Medi 2010

Archif

Torth Afal a Brandi
Nerys 21/10/08

Torth Afal a Brandi

Cynhwysion
150g o fenyn
185g blawd codi
150g siwgr mân
2 wy
1 llwy de o rhun fanila
1 llwy de o sinamon
2 afal, wedi’i pilio a thorri’n dafellau ar draws
1 llwy fwrdd o jam bricyll
10ml brandi neu Calvados

Dull
Cynheswch y ffwrn i 180ºC/nwy rhif 4.

Toddwch y menyn, ac oerwch dipyn cyn rhoi mewn prosesydd bwyd gyda’r blawd codi, siwgr mân, wyau, rhun fanila a’r sinamon a phroseswch tan fod y gymysgedd yn llyfn. Ychwanegwch yr afal a chymysgwch yn dda.

Urwch a leiniwch tun torth 2 bwys gyda phapur pobi. Arllwyswch y gymysgedd i’r tun a phobwch am 1 awr.

Cymysgwch y jam bricyll gyda 1 llwy fwrdd o ddwr mewn sosban fach. Trowch, dros wres isel tan fod y jam wedi toddi. Ychwanegwch y brandi a brwsiwch dros y gacen gynnes. Gadewch i oeri am rhai munudau cyn troi allan o’r tun a’i roi ar rac weiren i oeri’n gyfangwbwl. Gweiniwch gyda hufen neu crème fraiche.
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf