|
Bwriad wedi7.com (gwefan Tinopolis Cyf, a gofrestrwyd fel Teledu Agenda Cyf, Rhif Cwmni 58008), yw darparu gwybodaeth i gleientiaid, buddsoddwyr, partneriaid a darpar weithwyr am ein busnes, ein gwasanaethau a’n datrysiadau.
Mae Tinopolis yn casglu gwybodaeth oddiwrth defnyddwyr y gwefannau hyn yn awtomatig, ar ôl iddynt gwblhau ffurflen gais am wybodaeth ar-lein, neu ar ôl iddynt ddefnyddio’r adnoddau gwasanaethau cwsmeriaid. Rydym yn monitro’n cofrestrau hygyrchedd yn rheolaidd ac yn cadw, ar gyfrifiadur, gopi llawn o’r ffeil ac unrhyw gysylltiadau electronig perthnasol. Rydym yn defnyddio cookies, wedi’u cysylltu i fas data i groesawu defnyddwyr cyson y gwyddom amdanynt, ac mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth mwy personol. Rydym yn storio manylion sy’n cynnwys yr holl ddata a gesglir gan ein system cookie, a’r cyfeiriad IP a roddir i ddefnyddwyr sy’n ymweld â’n gwefan (darperir y cyfeiriad IP gan eich Darparwr gwasanaethau Rhyngrwyd a defnyddir y cyfeiriad tra eich bod ar-lein i gyfeirio gwybodaeth i’ch cyfrifiadur personol, eich teledu neu ffôn symudol. Cesglir yr wybodaeth hon i hwyluso’r broses o weithredu. Defnyddir yr wybodaeth hefyd er mwyn monitro sut y gallwn wella’n gwasanaethau allweddol.
Mae cyfrinachedd a phreifatrwydd yr unigolyn yn bwysig iawn i ni. Nid yw cwmni Tinopolis yn rhannu data personol am ein cleientiaid, gwefannau a gartrefir gennym, neu ddefnyddwyr, gydag unrhyw gyrff eraill.
|