Rhagor o grempgau wedi paratoi gan Sioned ar gyfer y diwrnod arbennig hwn.
CREMPOGAU BACH LLAETH ENWYN
150g blawd plaen
2 lwy de powdwr codi
¼ llwy de bicarbonad soda
50g siwgwr caster
2 wy
150ml llaeth enwyn
25g menyn wedi’i doddi a’i oeri ychydig
Olew blodyn yr haul i ffrïo a siwgwr eisin i weini.
Rhidyllwch y blawd, y powdwr codi a’r bicarbonad soda i powlen fawr, yna ychwanegwch y siwgwr a chyfunwch. Chwisgiwch yr wyau, y llaeth enwyn a’r menyn at ei gilydd mewn powlen arall, yna tywalltwch i’r cynhwysion sych gan chwisgio’r cyfan nes bydd ganddoch gytew llyfn. (Gallwch ddefnyddio’r cytew nawr neu ei gadw yn yr oergell am hyd at ddeuddydd.) Pan fyddwch yn barod i goginio’r crempogau, ychwanegwch un o’r cynhwysion fydd yn rhoi blas i’r crempogau, os ‘da chi’n dymuno. (gw. isod)
Twymwch yr olew mewn padell ffrio drom neu radell bwrpasol. Coginiwch y crempogau fesul llond llwy fwrdd, am tua 2-3 munud ar bob ochor. Gweinwch rhai plaen gyda ffrwythau ffres a crème fraiche/iogwrt groegaidd a chawod o siwgwr eisin.
AWGRYMIADAU AM YCHWANEGIADAU BLAS: Banana wedi’i falu gyda fforcen/mafon ffres/darnau bach siocled/ffrwythau sych/1 ½ llwy de sinamon mâl. Gallwch hefyd daenu mêl neu surop dros y crempogau a chnau wedi’u torri.