Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2013

Ryseitiau

Crempogau Butternut Squash a Choriander
Sioned sy'n paratoi crempgau sawrus ar ddiwrnod crempog

CREMPOGAU ‘BUTTERNUT SQUASH’ A CHORIANDER
2 wy
100g blawd plaen
30ml llaeth
menyn i ffrïo
llwy fwrdd coriander, wedi’i dorri’n fân
½ ‘butternut sqush’
caws gafr, ffeta neu mozzarella

Dresin:
2 lwy fwrdd olew olewydd
2 lwy fwrdd sudd lemwn
½ llwy de plu tsili sych
llwy de mêl clir
pupur a halen i flasu.

Torrwch y sqash yn ei hanner ac ar ei hyd a gwaredwch yr hadau. Taenwch ychydig o olew olewydd a phupur a halen dros un hanner a rhostiwch mewn popty cymhedrol am tua 45 munud nes bydd y cnawd yn feddal. Pan fydd wedi oeri digon i’w drin, defnyddiwch lwy i dynnu’r cnawd o’r plisgyn a rhowch mewn powlen fawr.Malwch gnawd y squash gyda chwisg neu lwy bren nes bydd yn llyfn.
Ychwanegwch yr wyau, y blawd a’r llaeth a chyfunwch y cwbwl yn dda gyda chwisg neu lwy bren nes bydd ganddoch gytew llyfn a thrwchus. Ychwanegwch pupur a halen a’r coriander a rhowch dro iddo unwaith eto.
Twymwch badell ffrio drom a rhowch ychydig o fenyn ynddo. Coginiwch y cytew fesul llwy fwrdd, am tua 2 funud ar bob ochor. Gweinwch yn dwym gyda darn bach o gaws, a’r dresin ar ben bob un.

 

Gyrru i ffrind