Cyw Iâr Thai
200g brest cyw iâr (heb y croen)
2 winwnsyn
4 clôf garlleg
2 tsili
4 leim
coriander
sinsir ffres
mêl
saws soy
brwision bara
halen a phupur
Cymysgwch y winwns, garlleg, sinsir, tsilis a’r coriander mewn prosesydd bwyd ac yna rhowch mewn bowlen. Tynnwch y croen o’r leims a gwasgwch y sudd. Ychwanegwch hanner y sudd a’r zest i’r gymysgedd yn y bowlen a chadwch yr hanner arall ar gyfer y dresin.
Cywasgwch y cyw iâr yn y prosesydd bwyd ac ychwanegwch at y gymysgedd. Ychwanegwch y briwsion bara a’r halen a’r pupur. Cymysgwch y cyfan gyda’i gilydd a gwnewch siapiau patties o’r gymysgedd.
Rhowch y saws soy mêl a sudd a zest y leim mewn sosban. Torrwch hanner clôf garlleg ac ychydig o tsili ac ychwanegwch i’r sosban. Berwch y gymysgedd i hanner.
Ffriwch y patties ac yna rhowch nhw yn y popty i goginio trwyddo. Gweiniwch gyda’r dresin o’r sosban.