Elwen yn paratoi caserol porc gyda phwdin du a mango
Caserol Porc, Pwdin Du gyda Mango
675g porc wedi ciwbio
olew
1 moronen wedi’i plicio a’i thorri’n fân
1 winwnsyn wedi ei dorri’n fân
2 glôf garlleg, wedi eu torri’n fân
300g tatws melys, wedi’u pilio a’u torri’n giwbiau
100g pwdin du, wedi’i dorri’n giwbiau
croen lemwn, wedi’i gratio
1 mango wedi ei dorri’n giwbiau
300ml stoc porc cynnes
2 lwy fwrdd blawd
2 daten, wedi’u pilio a’u torri’n sleisus
25g menyn wedi’i doddi
Pupur a halen
Popty 180C/Nwy 4
Cynheswch yr olew, a ffriwch y moronen, yr winwnsyn a’r garlleg am tua 5 munud. Mewn padell arall, browniwch y cig mewn olew. Rhowch y cig mewn dysgl caserol. Yna rhowch y tatws melys a’r gymysgfa moron ar ben y cig, yna’r pwdin du, croen lemon ar mango.Cymysgwch y stoc a’r blawd yn araf, yna rhowch ar ben popeth yn y ddysgl. Rhowch y tatws ar ben y cyfan a brwsiwch gyda’r menyn cyn gorffen gyda phupur a halen. Rhowch caead neu ffoil ar y ddisgyl a coginiwch am awr, yna tynnwch y caead i ffwrdd a coginiwch am 30-45 munud arall.