Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Gwener, 24 Mai 2013

Ryseitiau

Cawl mis Chwefror
Gareth yn paratoi cawl i dwymo ni yn ystod y tywydd oer.

Cawl mis Chwefror

150g pasta bach
2 foronen wedi eu torri’n fân
2 ddarn seleri wedi eu torri’n fân
1 winwnsyn coch wedi ei dorri’n fân
1 tsili coch wedi ei dorri’n fân
2 glôf garlleg
1 tun ffa cannelloni
1 tun ffa barlotti
3 tomato wedi eu torri’n fân
1 llwy fwrdd tomato purée
1200ml stoc llysiau
halen a phupur
½ bresych wedi ei dorri’n darnau
dail teim
Croutons Caws
100g caws parmesan
1 melynwy
1 llwy de mwstard
1 baguette

Cynheswch ychydig o olew mewn crochan a choginiwch y moron, y winwnsyn a’r seleri am ryw 10 munud tan yn feddal. Torrwch y garlleg yn fân ac ynchwanegwch i’r gymysgedd ynghyd â’r tomato. Ychwanegwch y ffa (gwaredwch y dwr) a’r teim. Cymysgwch yn dda. Ychwanegwch y past tomato, y stoc a phupur a halen i flasu. Dewch a’r cwbwl i’r berw ac yna mudferwch am 35 munud.
Ychwanegwch y pasta a’r darnau o fresych a choginiwch am 10 munud arall.
Croutons
Sleisiwch y bara a thostiwch un ochor. Cymysgwch yr wy, y caws a’r mwstard a gwasgarwch dros y bara ac yna rhowch yn ôl o dan y gril a’i goginio tan yn euraidd. Gweiniwch gyda’r cawl.
 

Gyrru i ffrind