Cobbler Bricyll a Llus
6 bricyll
350g llus
2 lwy fwrdd cordial blodyn yr ysgawen
1 llwy fwrdd siwgwr caster
1 llwy fwrdd blawd plaen
I’r crwst
Pinsiad halen
150g blawd plaen
2 lwy de powdr pobi
1 llwy fwrdd siwgwr caster
80g menyn
140ml hufen sur
1 llwy bwdin siwgwr Demerara
Popty 200C/Ffan 180C/Gas 6
Cymysgwch y menyn a’r blawd i greu briwsion ac yna ychwanegwch ychydig o halen, powdr pobi a’r siwgwr. Sleisiwch y bricyll ac rhowch mewn dysgl sy’n addas i’r ffwrn gyda’r llus, y cordial, y blawd a’r siwgwr.
Cymysgwch yr hufen i’r brwision i greu toes meddal ac yn torrwch yn ddarnau a rhowch ar ben y ffrwythau. Sgeintiwch gydag ychydig o’r siwgwr brown.
Coginiwch am tua 25 munud nes ei fod yn euraidd. Gweiniwch gyda crème fraiche.