Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

Cyflwynwyr

Rhodri Owen
Dewch i wybod mwy am un o gyflwynwyr newydd Wedi 3, Rhodri Owen

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich swydd?
Mae pob diwrnod yn wahanol, mae amrywiaeth yn bwysig iawn – a dwi’n lwcus iawn.

Beth oedd eich swydd cyntaf?
Actio mewn opera sebon o’r enw ‘Dinas’ pan on i dal yn yr ysgol – amser grêt, lot fawr o hwyl!

A’r swydd waethaf rydych chi wedi cael?!
Dwi wedi mwynhau’r rhan fwyaf o’r swyddi, er dwi ddim yn hoff o swyddi sy’n mynd â fi oddi cartre’ dyddie ‘ma!

Pa fwyd allwch chi fyth byw hebddo?
Siocled yn bendant. Dwi’n cyfadde’, ma’ ‘da fi broblem gyda siocled.

Beth yw’r peth gwaethaf i chi wisgo’n gyhoeddus?
Ma’ ffasiwn yn beth od. Y peth gwaetha’ yw – fel cyflwynydd – ma’ ‘na lot fawr o dystiolaeth o’r ‘camgymeriadau mawr’!

Petai chi’n anweledig am y dydd, be fase chi’n gwneud?
Mynd i’r feithrinfa lle mae fy mab a gweld shwt ma fe’n bihafio!

Beth yw eich hoff air?
Gabriel.

Ble mae eich hoff le yn y byd?
Castell Carreg Cennen ger Llandeilo.

Sut ddechreuoch chi gyflwyno yn y lle cyntaf?
Doeddwn i erioed wedi ystyried bod yn gyflwynydd, ond mewn un Eisteddfod daeth rhywun o S4C atai a gofyn ‘sen i’n fodlon cael ‘prawf sgrin’ i fod yn un o wynebau newydd rhaglenni plant S4C.

Pa fath o gerddoriaeth ydych chi’n hoffi?
Wrth i fi ‘aeddfedu’ dwi wedi dechre dwli ar gerddoriaeth glasurol – ond dyddie ‘ma dwi ‘di sylwi bo’ fin canu caneuon Disney yn fwy aml – a dwi’n gwybod y geiriau i gyd i ‘Tomos a’i ffrindiau’.

Beth oedd y record cyntaf i chi ei brynu?
Albwm y Bangles. Dwi dal yn ffan mawr o Susanna Hoffs.

Ac yn olaf, oes ganddoch chi neges i’r gwylwyr...?
Gobeithio eich bod chi’n joio Wedi 3 gymaint â fi. Dwi wrth fy modd yn cyflwyno’r rhaglen. Dyw e ddim fel gwaith o gwbl – mae’n bleser pur! Diolch am wylio, a daliwch ati...
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf