Dylan sydd â chyngor ar arbed arian yn yr archfarchnadoedd
Yn dilyn y newyddion bod cwmni archfarchnad ASDA wedi ceisio ennill y blaen ar eu cystadleuwyr, drwy wneud addewid i’w cwsmeriaid i ad-dalu y gwahaniaeth rhwng eu basged siopa nhw a basged cyffelyb gyda archfarchnadoedd eraill, a’i dull marchnata ydy hwn gan ASDA?
Mae’r archfarchnadoedd yn defnyddio tactegau didrigaredd i roi perswad ar eu cwsmeriaid i wario mwy ac i aros yn y siop yn hirach.
Gwyliwch rhag cael eich dal:
Mewn amser o ddirwasgiad fel hyn mae pob teulu yn edrych i gynilo ar eu biliau. Yn arferol mae’r bil bwyd gyda’r gwariant mwya i deuluoedd yn fisol.
Mae teuluoedd Prydain yn gwario dros £90 miliwn mewn archfarchnadoedd yn flynyddol.
TECHNEGAU YR ARCHFARCHNADOEDD:
1. Arogl bara yn coginio neu cywion yn y peiriant rotiseri , mae nhw yno yn fwriadol i ddenu cwsmeriaid i mewn i’r siop.
2. Wrth gerdded i mewn i’r siop fe welwch gynyrch ffres a digon o fargeinion, mae’r cynhyrch yn rhoi gwedd iachus a buddiol i’r siop. Edrychwch o’ch cwmpas, does dim golwg o Alcohol a bwydydd llai iachus.
3. Bydd arwyddion yn bloeddio bargeinion atoch Mae hyn yn arwain y siopwr gredu bod mwy o fargeinion ar gael , ac mae hyn yn arwain i chi siopa mwy. Wedi i chi brynnu ambell i fargen mae’n debygol i chi wedyn cael eich temptio i brynnu ambell i eitem sy’n ddrytach .
4. Ydi chi wedi gweld cynllyn clir mewn archfarchnad yn dangos lleoliad gwahanol eitemau? Naddo siwr. Pam ? Wel mae archfarchnad eisiau sicrhau eich bod yn crwydro o gwmpas cymaint a sy’n bosibl , wrth i chi wneud hyn mae’n debyg y cewch eich temptio.
5. Mae arwyddion a lliwiau yn bwysig. Coch sy’n tynnu sylw gorau. Mae arwyddion yn cael eu hail adrodd hefyd.
6. Byddwch yn wiliadwrus am fwydydd sy’n cael cyd-fynd ai gilydd, , tarten afal a cwstad, hufen a phwdinnau arbennig, nid awgrymiadau ydi rhain ond eich temptio i brynnu mwy nag un peth.
7. Byddwch yn ofalus pan yn astudio y silffoedd, mae’n bosibl bod y nwyddau drytaf wedi eu lleoli cyfuwch a’ch llygaid tra mae’r nwyddau rhatach yn is neu yn uwch na lefel y llygaid.
8. Beth am fargeinion sydd wedi eu lleoli ar ddiwedd rhes? Nid ydi rhain o angenrheidrwydd y bargeinio gorau , edrychwch o’ch cwmpas.
TIPS :
1. Cynlluniwch eich prydau, peidiwch prynnu ar fympwy.
2. Peidiwch mynd yn llwglud i siopa.
3. Ewch a rhestr siopa gyda chi.
4. Astudiwch y silffoedd peidiwch a mynd am y nwyddau sydd ar lefel eich llygaid.
5. Oes angen prynnu y “brand” pob tro?
6. Prynnwch lysiau a ffrwythau yn eu tymor. Beth am brynnu cynhyrch o Brydain?
7. Beth am brynnu cynhyrch wedi eu rhewi? Tydi hyn ddim yn golygu eich bod yn colli allan ar eich “ five a day”
8. Edrychwch allan am fargeinion ar fwydydd sy’n cadw.
9. Beth am siopa AR LEIN : mae hyn yn arwain i chi fedru prynnu llai ac osgoi amgylchiadau lle mae posibilrwydd eich bod yn prynnu mwy.
10. Prynnwch fwyd ffres, prynnwch llai o fwydydd parod.
11. Edrychwch ar doriadau gwahanol o gigoedd.