Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mercher, 19 Mehefin 2013

Y Cogyddion

Anna Brown
Darllenwch proffeil y gogyddes Anna Brown isod

Daw Anna o Gydweli, a daeth i sylw Cymru yng nghystadleuaeth Chez Dudley ar S4C yn 2006. Mae hi'n berchen ar dafarn y Farriers yn Nhrimsaran ger Llanelli, ac yn ymddangos ar Wedi 3 yn coginio yn rheolaidd.

"Cefais fy magu yng Nghydweli fel yr henaf o dair chwaer ac o oed ifanc roedd gen i ddiddordeb ym mhopeth yn ymwneud â choginio. Roedd Mami yn gogydd arbennig a dwi’n gallu ei chofio’n glir yn casglu’r Gyfres Goginio Corden Bleu oedd yn cael ei gyhoeddi yn fisol ac roedden ni’n aros amdano yn eiddgar.

Bob mis fe fydden ni’n arbrofi gyda ryw lwyddiant ac fe ehangodd ein 'repertoire' wrth i’r misoedd fynd heibio. Mae / roedd dad yn filfeddyg / ffarmwr ac felly roedd wastad llwyth o ddeunydd i ni arbrofi gyda. Doeddwn i ddim yn meddwl dwywaith am daclo cwngingod / ffesantod i’w plwcio, cael gwared ar y croen a’u paratoi ar gyfer y pot!

Taflodd Chez Dudley fi yn ôl i’r byd arlwyo ac agor drysau fel Wedi 3 ayyb (‘dwi hefyd yn ysgrifennu colofn wythnosol ar gyfer y Llanelli Star / Carmarthen Journal). Dwi wrth fy modd gyda’r sialens o goginio yn gyson ar Wedi 3, mae cynhyrchu saig mewn 6 munud mor wefreiddiol! Mae’r ymateb hefyd wedi bod mor bositif.

Fy hoff fwyd yw unrhywbeth Cymraeg; cig oen, cig eidion, bwyd y môr, llysiau wedi eu tyfu adref, ond yn bwysicach na dim bwyd sydd wedi ei goginio yn syml. Mae cogyddion yn aml yn teimlo bod angen iddyn nhw greu seigiau cymhleth gyda blasau di-angen er mwyn plesio.
Fy nghas fwyd yw unrhywbeth sydd wedi ei or-goginio ac sy’n rhy sbeislyd. Dwi’n mwynhau ychydig o gic, ond dim byd sy’n cael gwared ar flas y saig.

Faswn i’n disgrifio fy steil coginio fel un cartrefol, gwledig a dewr. Rwy’n angerddol am sawsiau a dwi’n mwynhau’r ffaith fod cynhwysion sydd wedi eu coginio yn da yn medru apelio at bob fath o bobl gyda blasau gwahanol. Dwi wedi troi cwpwl o fy nghwsmeriaid i hoffi bresych! (Dwi’n ei ffrio mewn olew olewydd gyda halen a phupur).

Y cyngor gorau sydd gen i yw i wisgo llewysau hir yn y gegin, i atal y breichiau rhag llosgi pan yn coginio!"
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf