Alison Huw sy'n esbonio pa fwydydd sydd yn eu tymor yn mis Ionawr
Er ein bod yng nghanol hirlwm y gaeaf mae ‘na ddigon o fwydydd ar eu gorau i roi gwên ar ein hwynebau ac i rhoi cysur i'n prydiau. Alison Huw sy’n awgrymu rhai ohonynt:
Orennau seville
Ar eu gorau'r mis yma. Gafaelwch yn rhain er mwyn dod â pheth o haul Sbaen i ganol ein gaeaf ni. Hawdd i'w hadnabod oherwydd nad ydynt yn ddeniadol. Braidd dim cnawd, llwyth o hadau ac yn hynod sur. Dyma'r orennau gorau i wneud marmalêd godidog . Be sy'n well ar fore rhewllyd oer na thost, menyn a marmalêd cartref.
Tymor byr iawn sy ganddynt - 6 wythnos ar y mwyaf.
Prynwch ddigon oherwydd mae nhw'n rhewi'n dda.
Maip
Ym Mhrydain mae maip wedi eu cysylltu fel bwyd gaeaf i anifeiliaid. Ddim yn sôn am erfyn neu sweds yn fan yn ond y ‘turnip’ neu maip.
Yn yr Alban mae hwn yn lysieyn sy'n cael lle pwysig mis Ionawar. Adeg gwledd Robbie Burns mae stwnsh maip, haggis a glasiad o whisky'n draddodiadol.
Chwiliwch am rhai bach hefyd i'w rhostio'n gyfan.
Bresych
Mae sawl dewis o fresych mis Ionawr - ambell un yn fwy ffasiynnol na'r nall e.e cavalo nero, neu savoy.
Er wedi'u beirniadu'n hallt dros y blynyddoedd mae ffyrdd modern o goginio wedi eu rhoi yn ôl ar y fwydlen - torrwch yn fan a'i daflu i soup minestrone, neu ffriwch yn gyflym gyda menyn, garllleg a bacwn.
Un arall o fwydydd cysurus mis Ionawr yw colcannon lle mae bresych yn cael ei gymysgu a thatws potsh a menyn. Cofiwch hefyd fod bresych yn ffynhonell holl bwysig o fitaminau.
Moron
Yn rhoi lliw i'r plat mis Ionawr. Yn hyblyg tu hwnt mewn cawliau gyda pherlysiau fel coriander neu mewn cawl traddodiadol. Rhostiwch yn gyfan gyda sbeis fel cumin i rhoi cic.
Cnau brazil
Falle eich bod wedi mwynhau rhain eisioes dros y Nadolig. Yn cael eu cynhaeafu yn Ne America yr adeg yma o'r flwyddyn - O Frazil i Peru.
Cadwch rhai heb y gragen yn yr oergell i'w cadw'n ffres.
Yn ffynhonnell dda o brotîn a ffeibr ac yn cynnwys lefelau uchel o seleniwm sy'n dda i'r system imiwnedd
Artichokes jeriwsalem
Dau fath o artichokes. Y ddau yn hollol wahanol. Un fel blodyn ysgall a hwn yn debycach i daten gnotiog.
Blas unigryw - croes rhwng madarch, cnau a phridd!
Dyma chi lysieyn gall godi pryd. Os yn dechrau diflasu ar flasau undonnog y llysiau gwraidd eraill, rhowch gynnig i'r artisiog.
Sut - Potsiwch gyda hufen neu rhowch rhwng haenau o datws mewn hufen fel gratin. Gwneud cawl melfedaidd hefyd. Mae nhw'n hawdd iawn i'w tyfu.