Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

Calendr Digwyddiadau

    • 1/6/2012 - 2/18/2012 : 6:00 PM - 10:00 PM
      £-
      Nodiadau-maes - Iwan Bala a Menna Elfyn
    • Kathryn Campbell

      kcampbell@carmarthenshire.gov.uk

      Lon y Llan
      Caerfyrddin

      Nodiadau-maes Iwan Bala a Menna Elfyn, arddangosfa gydweithredol Dydd Gwener 6 Ionawr 7yh I gael ei hagor gan Yr Athro M Wynn Thomas, Cadair Emyr Humphreys mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Nghymru, Prifysgol Abertawe Dydd Gwener 6 Ionawr am 6yh Iwan Bala a Menna Elfyn (cyn yr agoriad swyddogol)Artist a Bardd yn sgwrsio

    • 2/9/2012 : 9:00 AM - 3:30 PM
      £DIM
      Eisteddfod Gwyl Dewi
    • Mark Watkins

      mrwatkins@penweddig.ceredigion.sch.uk

      Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
      Aberystwyth

      Eisteddfod flynyddol Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. 9:00 tan 15:30 yn y Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Croeso cynnes i bawb.

    • 2/10/2012 : 7:00 PM - 11:00 PM
      £8:00
      RYLAND TEIFI A MENDOCINO
    • Ann Davies neu Gethin James

      ann.bremenda@btconnect.com

      Bremenda Uchaf,
      Llanarthne,
      Caerfyrddin

      Noson o ddiddanwch llwyr yng nghwmni Ryland Teifi a'i band o'r Iwerddon Medocino. Noson o ganu a cerddoriaeth gwyddelig ar Nos Wener 10ed Chwefror 2012. Tocynnau yn £8.00 Bwyd a Bar ar gael yn y Neuadd.

    • 2/10/2012 : 7:30 PM - 10:00 PM
      £1.50
      Gyrfa Chwist
    • Beryl Owen

      beryl.penywaun@googlemail.com

      Neuadd Llandyfan

      Gyrfa Chwist yn Neuadd Llandyfan am 7.30 o'r gloch Gwobr o £15 i'r sgôr uchaf Galwr : Heulwen Jones Trefnwyd gan Sefydliad y Merched Trap Tâl mynediad £1.50

    • 2/13/2012 : 12:00 AM
      £AM DDIM
      Cwrs Cymraeg i ddysgwyr
    • Rhian Jones

      rhiane.jones@colegsirgar.ac.uk

      Parc Dinefwr
      Llandeilo

      Mae Coleg Sir Gar yn cynnal cwrs Cymraeg i ddysgwyr ar ddydd Llun 13eg o Chwefror ym Mharc Dinefwr, Llandeilo fel rhan o wythnos Gymraeg y Parc.

    • 2/23/2012 : 7:00 PM - 11:00 PM
       
      Darlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithi
    • Bethan Davies

      bsd08@aber.ac.uk

      Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen
      Campws Penglais
      Aberystwyth

      Darlith flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig Dyfodol yr heddlu yng Nghymru/A future for policing in Wales. Dr Timothy Brain cyn Prif Gwnstabl Caerloyw, ac awdur 'A History of Policing in England and Wales from 1974: A Turbulent Journey' Nos Iau, Chwefror 23ain 2012 am 7yh Ystafell C22 Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth. Croeso i bawb!

    • 2/25/2012 - 4/7/2012 : 9:00 AM - 11:00 PM
      £am ddim
      Lab Craft
    • Kathryn Campbell

      kcampbell@carmarthenshire.gov.uk

      Oriel Myrddin Gallery
      Caerfyrddin

      Ar daith o’r Crafts Council, Llundain Criw o 26 o grefftwyr yw Lab Craft sy’n cyfuno gwaith llaw,meddwl, llygad, meistrolaeth dechnegol ar offer a defnyddiau,ac ymwybyddiaeth esthetig, gyda’r technolegau digidol diweddaraf. Gan ddefnyddio technegau prototeipio cyflym, torri laser, sganio laser ac argraffu digidol, mae Lab Craft yn ymchwilio i ddefnydd technoleg fel estyniad i alluoedd y llaw ddynol. Dan ofal Max Fraser, mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith gan rai o’r enwau mwyaf arbrofol sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes crefft a dylunio, gan gynnwys Tord Boontje, Michael Eden, Gareth Neal, Timorous Beasties a Nina Tolstrup, llawer ohonynt yn dangos gwaith arloesol nas gwelwyd o’r blaen. Cyflwynir tecstilau, cerameg, dodrefn, gemwaith, gwydr, golau a llawer mwy i ysgogi dychymyg unrhyw un sydd â diddordeb mewn crefft, defnyddiau, dylunio a thechnoleg.

    • 2/25/2012 : 7:00 PM - 11:00 PM
      £2
      Noson yng nghmni Aled Samuel ( Pedair Wal)
    • Luned Davies

      daviesluned@yahoo.co.uk

      Neuadd Myddfai
      Myddfai

      Ar nos Sadwrn Chwefror 25ain yn neuadd Myddfai bydd noson yng nghwmni Aled Samuel (pedair wal) yn cael ei chynnal. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a chost mynediad fydd £2.

    • 4/14/2012 - 5/26/2012 : 9:00 AM - 10:00 PM
       
      Mandala Llwch Glo - Jonathan Anderson
    • Kathryn Campbell

      kcampbell@carmarthenshire.gov.uk

      Oriel Myrddin Gallery
      Caerfyrddin

      Does dim byd yn para am byth …” Esiampl o natur dymhorol gwaith Anderson yw ei ddiddordeb mawr mewn glo fel trosiad ac fel cyfrwng. Mae glo wedi’i greu o hen ddyddodion carbon; gellid dweud ei fod yn cynrychioli ein dechrau a’n diwedd yn y pen draw. Ar ben hynny, yng nghyd-destun de Cymru, mae’n llwythog â symbolaeth ac ystyr cymdeithasol a gwleidyddol. Rywsut mae Anderson yn cydbwyso treftadaeth emosiynol glo â phrydferthwch dirgel ei sylwedd; ei ddüwch disglair hudol. Mae Anderson yn defnyddio glo mewn ffordd ddefodol bron, yn ddyddiol, i wneud ei ‘fandala’ llwch glo. Cyfansoddir pob gwaith o ffurf solet sydd wedi’i ffurfio’n ofalus drwy osod haenau o lwch glo ar ddarn dethol o ddeunydd darfodedig. Mae’r gweithiau’n meddu ar rym trosgynnol a barddonol.