Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

Adolygiad

Banerog
Llinos Evans
Diolch i Hywel Griffiths am gyhoeddi cyfrol ddealladwy i rywun fel fi sydd ddim yn deall llawer am y grefft o farddoni. Ar yr olwg gyntaf teimlais fod hwn yn llyfr llawn syrpreisis am na wyddwn beth oedd rownd y dudalen nesaf! Bwndel o gyfrol gyda bron i gant o gerddi a rheiny yn rhai amrywiol iawn o ran cynnwys ond yn rhwydd i'w darllen. Cafwyd y llon a'r lleddf, y personol a'r llefydd cyfarwydd ac un rhan ar Gaerdydd. Does dim amheuaeth fod Hywel Griffiths yn fardd clyfar iawn a does ryfedd fod Huw Meirion Edwards yn nodi ar y clawr ei fod yn 'Un o leisiau ifanc mwyaf cyffrous y Gymru gyfoes'. Ar y darlleniad cyntaf sgipiais drwy'r gyfrol gan daro ar bennawdau oedd yn apelio ataf – megis Beddargraff iár, Kebaber, Pabell a Carafan. Mae'r rhain yn gerddi ysgafn ond yn werth i'w darllen. Yna dechreuais ddarllen y gyfrol o'r dechrau i'r diwedd ac aros ychydig uwchben y cerddi mwy difrifol fel 'Oerfel' sef yr hanes diflas am gau Siop Woolworth yn Aberystwyth adeg Nadolig 2009. Mae cymaint ohonom ni sy'n byw yn y rhan yma o'r wlad yn medru uniaithu á'r profiad . Ar ol ochr Hanesyddol mwynheais 'Rhyfel' (er fod hon wedi cael ei hysgrifennu ar y gyd ag Eurig Salisbury) – hanes dathlu chwe deg mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd a ' Rhyd Chwima' – sef y rhyd ar afon Hafren lle arferai Llywelyn gyfarfod á brenhinoedd Lloegr. Hoffwn ddiolch hefyd am yr is-deitlau a dan rai o'r penawdau sy'n egluro cefndir y cerddi. Mae yna dipyn golew o gerddi cyfarch yn y gyfrol – tybed a fuasai wedi bod yn well rhoi y rhain efo'i gilydd, yn hytrach na'i slotio i mewn fan hyn a fan draw? Pe bawn yn gorfod dewis fy hoff gerdd o'r llyfr, credaf mae 'Seren y Bore' fyddai honno. Cofnod pwysig o'r newyddion na fyddai Cymry yn cael papur dyddiol Cymraeg ond fod taflen Seren y Bore wedi ei chyhoeddi yng Nghaerdydd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 2008, ac fel y nodir yn yr is-deitl, 'yr unig bapur dyddiol i roi sylw yn Gymraeg i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd.
Jen Jones
Cyfrol ddarllenadwy, yn cyfleu ein natur ni fel Cymry ynghlwm a natur ein gwlad yn gymdeithasol, daearyddol a hanesyddol. Cyrhaeddodd y llyfr acw – cyfrol o farddoniaeth hawdd i’w chodi a’i rhoi i lawr ar y nail – ‘llyfr lle chwech’ fel fydd y plant yn galw llyfrau i bicio i mewn ac allan ohono - ond na nid felly y bu . Mi roedd yn gafael yn rhywun ar unwaith a rhaid oedd mynd drwy’r gyfrol yn sawru gwahanol agweddau : cyfarchion ar achlysuron arbennig, sylwadau am iaith a chenedligrwydd, canmol, digwyddiadau byd eang hyd yn oed cau Woolworths! - ac wedi profi o’r pot mel mynd iddo eto dro ar ôl tro. Cafodd y cerddi parthed yr iaith a Chymdeithas yr Iaith effaith cryf – euogrwydd nad wyf wedi gweithredu ers amser maith ac eto mae y to ifanc yn bwrw ymlaen a’r gwaith. Mae rhai unigolion heb ollwng gafael ,ee. ‘I Ffred yn 60 – ‘trigain oed di- gadoediad/ yn rhoi oes i weld parhad/Y Gymraeg i’r Gymru hon’. Mae’r gerdd olaf yn y gyfrol dod a llygedyn o obaith ; Banerog: ‘Mae’r gwynt yn ffyrnig, fel chwip fendigaid, Yn oeri gweflau, yn sur ei folaid, Awn er hynny i ralïau’r enaid I’r stryd gam wrth gam, a phob yn damaid Awn eto i droedio, o raid yn befriog, Yn wyl fanerog, fel afon euraid’

Gyrru i ffrind

 

 

Adolygiadau Diweddaraf