Neidio at y cynnwys

S4C

Dydd Mercher, 10 Mawrth 2010

Clwb Llyfrau

Clwb Darllen Wedi 3
Cofrestrwch gyda ein Clwb Darllen!

Ar yr 20fed o Ebrill bydd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chyhoeddi, ac o’r 21ain o Ebrill ymlaen bydd modd i wylwyr Wedi 3 a Wedi 7 fod yn rhan o glwb darllen Wedi 3 i anfon sylwadau am y llyfrau a chynnig gwneud adolygiadau ar y rhaglen. Er mwyn bod yn rhan o beth fydd, gobeithio, yn glwb darllen mwyaf Cymru fe fydd angen cofrestru.

Anfonwch eich enw, cyfeiriad, ebost a rhif ffon i wedi3@tinopolis.com neu ffoniwch 01554 880972.

Bydd wedyn modd pleidleisio am eich hoff lyfr ar wefan www.golwg360.com o Ebrill y 21ain ymlaen. Bydd dewis o 10 llyfr ar y rhestr hir, ac fe fyddwn ni’n adolygu rhain ar Wedi 3 yn yr wythnosau yn arwain lan at y noson wobrwyo ar Fehefin y 30ain. Bydd cyfle i’r gwylwyr roi eu barn am y llyfrau hefyd.

Wrth gofrestru gyda chlwb llyfrau Wedi 3, bydd eich enw chi’n mynd mewn i het am y cyfle i ennill 2 docyn i seremoni wobrwyo fawreddog Llyfr y Flwyddyn yng ngwesty St David’s yng Nghaerdydd .
 

Gyrru i ffrind

 

 

Erthyglau Diweddaraf